Cymru’n dod o’r tu ôl i guro Tsiecia a chipio brig y grŵp
Daeth Cymru o’r tu ôl i guro Tsiecia 3–1 a gorffen ar frig eu grŵp rhagbrofol.
Newyddion, materion cyfoes, celfyddydau a chwaraeon gan Golwg360 a Chylchgrawn Golwg.
Cymru’n dod o’r tu ôl i guro Tsiecia a chipio brig y grŵp
Daeth Cymru o’r tu ôl i guro Tsiecia 3–1 a gorffen ar frig eu grŵp rhagbrofol.
‘Cwango arall?’ – pleidiau’n herio cynllun tai Unnos
Mae Llafur, Reform a’r Ceidwadwyr wedi codi cwestiynau am gost, pwerau a gwerth corff tai cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru.
Llywodraeth Cymru’n dechrau ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan y Fenai
Bydd Llywodraeth Cymru’n dechrau ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydedd groesfan rhwng Ynys Môn a’r tir mawr.
Sioned Williams yn cyhuddo Reform o droi hawliau pobl draws yn ‘rhyfel diwylliannol’
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithredu’r gyfraith, ond yn parhau i sefyll yn erbyn trawsffobia.
‘Dylai carchardai ddilyn safonau iaith Cymru – nid gosod eu rheolau eu hunain’
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am “newid sylfaenol” yn y gwasanaeth carchardai, gan ddweud bod y drefn bresennol wedi methu â diogelu hawliau carchar
‘Dim ond rhan o’r cyfiawnder’ sydd wedi’i sicrhau yn achos Neil Foden – Prif Weinidog
Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai’r flaenoriaeth yw atal achos tebyg rhag digwydd eto.
‘Angen i Lywodraeth Plaid Cymru weithredu ar frys i amddiffyn ysgolion gwledig’
Daw’r alwad gan Ffred Ffransis wedi i gynghorau Gwynedd a Chonwy symud ymlaen â chynigion fydd yn arwain at gau tair ysgol gynradd fechan yn y gogledd
Llafur Cymru yn cefnogi Andy
“Dwi’n credu bod y rhan fwyaf o bobol yn y Blaid Lafur yng Nghymru yn cydnabod bod Keir Starmer yn broblem” #CylchgrawnGolwg #newyddion
‘Roedd angen rhoi’r gorau i bopeth a gwrando’: gŵr yn rhannu stori ei wraig
Mae Nigel Davies yn rhannu realiti gofalu am ei wraig ar ôl iddi gael diagnosis o ganser terfynol yr ymennydd.
O deulu di-Gymraeg i’r dosbarth Cymraeg: dathlu 15 mlynedd o’r Coleg Cymraeg
Dywed Santhi Dosanjh na fyddai “erioed” wedi ystyried dysgu mewn ysgol Gymraeg oni bai am y cyfleoedd a gafodd drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Undebau teledu Cymru yn datgelu cytundeb newydd i amddiffyn perfformwyr rhag AI
Cafodd y cytundeb, a luniwyd ar y cyd gan Equity a TAC, ei gymeradwyo’n unfrydol gan aelodau’r undeb.
O Abertawe i’r Garreg Las: taith i ddathlu John Metcalf yn 80
Bydd Ensemble Nantwen a’r delynores Alis Huws yn mynd â gweithiau’r cyfansoddwr ar daith ledled Cymru yn ystod mis Awst.
Yr Iranian Mwyn a Maradona
Brasil sydd am ennill tro’ma, a dyma pam: tydyn nhw heb ennill Cwpan y Byd ers 2002, ac maen nhw yn ‘diw am win’ #CylchgrawnGolwg
https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199080-iranian-mwyn-chwpan?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg
‘Hawliau LHDTC+ dan fygythiad’: Hwb o bron £70,000 i ddigwyddiadau Balchder lleol
Mae’r cyllid sydd ar gael yng Nghronfa Balchder Llawr Gwlad yn cynyddu eleni, er mwyn cefnogi trefnwyr sy’n cynnal digwyddiadau i ddathlu Balchder.
Ai gwybod gormod oedd Alex Salmond?
“Prin fod angen dweud mai sut i beidio â rhedeg gwlad ydi’r wers bwysicaf y gall Rhun ap Iorwerth ei dysgu oddi wrth gamgymeriadau Nicola Sturgeon” #CylchgrawnGolwg
Pwy sydd eisiau bod yn SpAd?
A fydd rhestr lawn o’r SpAds yn cael ei chyhoeddi yn gynharach, a hynny gan fod Plaid Cymru wedi ymrwymo i arwain mewn ffordd “dryloyw”? #CylchgrawnGolwg #gwleidyddiaeth
https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199069-sydd-eisiau-spad?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg
🗣 “Paid â’m gadael i lawr, Heledd” – pam mae’r tôn hon mor gyfarwydd i fenywod?
Llinos Dafydd sy’n holi pam mae rhai dynion yn teimlo bod ganddynt hawl i fynnu atebion gan fenywod mewn grym — a’u ceryddu pan nad ydynt yn eu cael #safbwynt #gwleidyddiaeth
Sut wnaeth eglwys fach yn Eryri drechu gweddill y byd ar Reddit?
Diflannodd cyfandiroedd, gwledydd a dinasoedd — ond daliodd eglwys fach ym Meddgelert ei thir.
Arwr clwb rygbi fy ieuenctid
“Pa mor dda oedd Steve Fenwick? Am chwe blynedd, ef oedd y canolwr disglair yn nhîm chwedlonol y 1970au” #CylchgrawnGolwg
Steddfod yr Urdd a Gaza
“Pobl yn fwy parod i weld ochr Palesteina bellach ond does ’na neb yn gwneud dim i stopio’r lladd – a dyna be sy’n destun dagrau go-iawn” #CylchgrawnGolwg
https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2199049-steddfod-urdd-gaza?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg
🗣 Y Tair ‘C’
Mae arferion hamddena pobl wedi newid ers y pandemig – a hynny er gwaeth mewn rhai achosion #safbwynt
https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2198753-tair?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg
Fi a fy Nghi
Yr awdures a cholofnydd, Malan Wilkinson, sy’n siarad am ei chi, Anni yr wythnos hon
https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/2198808-nghi-28?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg
Aleighcia a’r trombôns yn tanio!
Mae yn bosib iawn iawn mai’r sengl ‘Ti Neud Fi Symud’ fydd BANGAR FAWR YR HAF hwn #CylchgrawnGolwg #cerddoriaeth
Cymru’n cael eu cosbi’n hwyr yn Montenegro
Gôl hwyr gan Montenegro yn gwadu buddugoliaeth i Gymru cyn gêm dyngedfennol yn erbyn Tsiecia yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Hunaniaeth wedi dylanwadu’n sylweddol ar fuddugoliaeth Plaid Cymru
Astudiaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru yn awgrymu bod ymdeimlad cryf o Gymreictod wedi chwarae rhan allweddol yn yr etholiad eleni
‘Siom’ na fydd stondinau i fasnachwyr yn Ffiliffest yfory
Mae trefnwyr gŵyl Gymraeg y dref yn egluro na fydd eu pebyll yn medru gwrthsefyll y tywydd garw #celfyddydau
Canmol dirwy o £44.7 miliwn i Ddŵr Cymru am halogi afonydd
Mae’r corff cyhoeddus wedi ‘methu’n lan,’ medd y Democratiaid Rhyddfrydol
Geid Golwg360
Detholiad o raglenni teledu’r penwythnos, o bêl-droed rhyngwladol i droedio byd natur a drama ddirdynnol gan un o’n hawduron cyfoes gorau ni
Canmol cynhyrchwyr a chynulleidfa “angerddol” Radio Cymru
Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, ar ben ei ddigon ar ôl i’r orsaf ennill un o brif wobrau Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd yng Ngogledd Iwerddon
Croeso’n ôl i dramiau Caerdydd!
Mae’n rhan o gynllun £100 miliwn Metro De Cymru i gysylltu 17 milltir o’r ddinas maes o law
Holi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026
“Mae plant Cymru eisie uniaethu gyda llyfrau, a gweld eu hunain o fewn llyfrau” #CylchgrawnGolwg
Morgannwg yn curo Gwlad yr Haf dan lifoleuadau ffaeledig Taunton
Bu’n rhaid gadael y cae sawl gwaith
Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn galw am wrthod canllawiau newydd ar gyfleusterau un-rhyw
Bwriad y canllawiau yw gwarchod gofodau un-rhyw, ond mae rhai’n dadlau eu bod nhw’n achosi diarddel pobol drawsryweddol o ofodau cyhoeddus #gwleidyddiaeth
‘Rydyn ni wedi troi’n ddeinosoriaid’: perchnogion Parc y Deinosoriaid yn gwerthu ar ôl tri degawd
Mae’r atyniad teuluol ger Dinbych-y-pysgod wedi ei werthu i Magic Entertainment Partners, gyda’r perchnogion newydd yn addo buddsoddi yn y safle.
Sgyrsiau’r Soffa Goch: Gweledigaeth Cyfarwyddwr Artistig newydd Bara Caws i godi proffil y cwmni ar-lein
Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws sy’n trafod ei chynlluniau gyda golwg360 #celfyddydau #theatr
Craffu360 Gair y Gohebwyr: ‘Rhun ap Iorwerth y Prif Weinidog, nid yn unig Arweinydd Plaid Cymru’
Rhys Owen ac Efan Owen sy’n trafod sesiwn gyntaf holi’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn y Senedd #gwleidyddiaeth
Adam Price yn annog busnesau i heidio i Gymru mewn datganiad ger bron y Senedd
Bu’r Gweinidog dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn cyfarch y Senedd ac yn egluro’i dargedau cynhyrchedd ar gyfer yr economi
Jonathan Edwards: Gall gwleidyddiaeth fewnol fod yn her i Rhun ap Iorwerth
Y cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru sy’n dweud y gall disgyblaeth o fewn Grŵp Plaid Cymru fod yn broblem i Rhun ap Iorwerth #gwleidyddiaeth
Mei Gwynedd
Canwr, cerddor a chynhyrchydd profiadol sydd wedi bod yn aelod o rai o grwpiau mwyaf blaengar y Sîn Roc Gymraeg ers diwedd y 1980au #CylchgrawnGolwg #llyfrau
https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2198743-gwynedd-2?mtm_campaign=mastodon&mtm_kwd=golwg
Leigh Halfpenny yn cyhoeddi ei ymddeoliad
Bydd ei yrfa’n gorffen gyda Chaerdydd, lle y dechreuodd hefyd
S4C yn ehangu presenoldeb ar Youtube, gan wireddu ei gweledigaeth o ddod yn ddarlledwr digidol yn gyntaf
Bydd y cydweithio yn rhoi gwell syniad am dueddiadau’r platfform ac ymddygiad cynulleidfaoedd
Artistiaid ifanc o Gymru wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis
Profiad anhygoel i’r myfyrwyr ifanc creadigol hyn o Gymru
Pedair ffilm fer o Gymru yn mynd i gael eu cynhyrchu
Datblygiad mawr i’r diwydiant ffilm yng Nghymru
Perchnogion y Gweilch yn tynnu’n ôl o bryniant clwb rygbi Caerdydd
Mae’r Gweilch hefyd wedi cytuno i lofnodi cytundeb newydd i’r gamp, sy’n golygu mai’r Scarlets yn unig sy’n gwrthod ei gefnogi
Archif o 2,000 o dapiau sain Cymraeg o’r 1980au i’w hagor yn Llambed
Bydd cyfle i unrhyw un wrando ar gyfweliadau o’r Arolwg Tafodieithoedd Dyfed
Welsh Whisperer yn lansio taith Dewin a Doti yn Eisteddfod yr Urdd
Bydd y diddanwr o Sir Gaerfyrddin yn perfformio ochr yn ochr â’r cymeriadau Dewin a Doti ar daith dros Gymru
Y bwlch rhwng Plaid Cymru a Reform UK yn culhau mewn dau arolwg barn newydd
Mae polau diweddaraf YouGov a More in Common yn awgrymu bod y gefnogaeth i Blaid Cymru wedi gostwng rywfaint a’u bod bellach ochr yn ochr â Reform UK #gwleidyddiaeth
Croeso i Faldwyn Meirionnydd 2027!
Ardal Glantwymyn ger Machynlleth fydd cartre’r Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesa. #celfyddydau